+ All Categories
Home > Documents > Borth - Ynyslas · 2018. 8. 28. · Borth - Ynyslas Taith gerdded arfordirol Coast path walk Start...

Borth - Ynyslas · 2018. 8. 28. · Borth - Ynyslas Taith gerdded arfordirol Coast path walk Start...

Date post: 26-Jan-2021
Category:
Upload: others
View: 1 times
Download: 0 times
Share this document with a friend
2
Borth - Ynyslas Taith gerdded arfordirol Coast path walk Start RNLI Lifeboat Station Borth Distance 8 miles Time 3.5 hours Grade Moderate Parking Car park near RNLI station Grid ref at start point SN 607 889 Grid ref for Visitor Centre SN 609 941 It’s not every village that can boast longshore drift as the reason for its existence, Borth however is one that can and seems to be a recent phenomenon. Along the beach beyond the buildings of Borth, the submerged forest can be seen at low tide. Bones and tree remains have been seen here and the recent discovery of deer antlers confirm that this stretch of land once flourished when the sea-level was lower. Sarn Cynfelyn is the most southerly of three such formations and together with the sunken forest at Borth have been the inspiration for the legend known locally as the lost land of Cantre’r Gwaelod. Cantre’r Gwaelod was a rich lowland part of Ceredigion with ramparts and sluices. The responsibility of closing the sluices fell to Seithennyn. A combination of a great storm at sea and Seithennyn’s regrettable dereliction of duty, led the sea to breach the defences and sweep inland leaving Gwyddno, the Kingdom’s ruler, high and dry on a relatively infertile part of his kingdom. Six thousand years later and Borth has the modern-day accolade of being one of the key filming locations for the BBC Wales Nordic Noir television series Hinterland. Cors Fochno, the boat yard where the River Leri reaches the sea and Borth station have featured prominently in the internationally acclaimed award-winning series. Today on a calm and quiet day, some say they can hear the bells of the drowned church of Cantre’r Gwaelod. Sit and wonder at the story and possibly listen quietly for the ringing of that submerged bell. Uchafbwyntiau’r daith Walk highlights Os ewch chi am dro ar hyd arfordir Bae Ceredigion fe gewch chi brofiad arbennig iawn o Lwybr Arfordir Cymru. Dyma rai o uchafbwyntiau’r daith. The route along the crescent of Cardigan Bay through Ceredigion forms a very special part of the Wales Coast Path experience. Here are some of the highlights you can expect to discover along the way. Dechrau Gorsaf Bâd Achub yr RNLI Pellter 8 milltir Amser 3.5 awr Gradd Cymedrol Parcio Maes parcio ger gorsaf yr RNLI Cyfeirnod grid yn y man cychwyn SN 607 889 Cyfeirnod grid ar gyfer y Ganolfan Ymwelwyr SN 609 941 Nid pob pentref all honni mai’r rheswm dros ei fodolaeth yw drifft arfordirol. Mae’r Borth yn un ohonynt ac ymddengys yn ffenomen ddiweddar. Ar hyd y traeth y tu hwnt i adeiladau Borth, gellir gweld y fforest danfor pan fydd y môr ar drai. Mae esgyrn a gweddillion coed wedi cael eu gweld yma ac, yn ddiweddar, cadarnhawyd bod cysylltiad rhwng cyrn carw a ddarganfuwyd ar y traeth a’r ddamcaniaeth bod y darn yma o dir ar un adeg wedi ffynnu pan oedd lefel y mor yn is. Sarn Cynfelyn yw’r mwyaf deheuol o dri ffurfiant o’r fath ac ynghyd â’r fforest danddwr yn Y Borth, mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r chwedl a elwir yn lleol fel tir coll Cantre’r Gwaelod. Roedd Cantre’r Gwaelod yn ardal o dir isel cyfoethog yng Ngheredigion gyda gwrthgloddiau a llifddorau. Cyfrifoldeb Seithennyn oedd cau’r llifddorau. Arweiniodd cyfuniad o storm fawr ar y môr a Seithennyn yn esgeuluso’i ddyletswyddau, at y môr yn chwalu’r amddiffynfeydd ac yn llifo dros y tir gan adael Gwyddno, rheolwr y deyrnas, ar dir cymharol anffrwythlon o’i deyrnas. Chwe mil o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae Borth yn enwog am fod yn lleoliad allweddol ar gyfer ffilmio cyfres deledu BBC Cymru, Y Gwyll. Mae Cors Fochno, yr iard gychod lle mae Afon Leri yn cyrraedd y môr a gorsaf Y Borth yn amlwg yn y gyfres sydd wedi cael sylw mawr yn rhyngwladol. Heddiw, ar ddiwrnod tawel, dywed rhai eu bod yn gallu clywed sŵn clychau eglwys Cantre’r Gwaelod. Eisteddwch a rhyfeddwch at y stori a gwrandewch yn ofalus am sŵn y gloch danddwr honno. www.four.cymru CCC2928 09/2016 Cronfa Cymunedau’r Arfordir Cronfa nedau’r Coastal Communities Fund Coast Path Information Always make sure you are suitably equipped both for your walk and for changing weather conditions. For your own safety, keep to the Coast Path and do not walk by the cliff edge. Be prepared for bad weather and take extra care in windy conditions. Wear or carry warm and / or waterproof clothes on long walks. Please check tidal conditions in advance. For all up-to-date travel information visit traveline-cymru.info Ceredigion tide times for can be found at www.discoverceredigion.wales Take the Ceredigion Coast Path Challenge Walk the Ceredigion Coast Path in its entirety and answer seven questions to claim your personalised challenge certificate. Contact the Ceredigion Tourist Information Centres for more information or visit www.discoverceredigion.wales Gwybodaeth i Ymwelwyr / Tourist Information www.darganfodceredigion.cymru www.discoverceredigion.wales www.facebook.com/discoverceredigion twitter.com/visitceredigion Gwybodaeth Llwybr Arfordir Sicrhewch bob amser fod gennych yr offer addas i wneud eich taith gerdded ac i ymdopi â thywydd cyfnewidiol. Er eich diogelwch personol, cadwch at Lwybr yr Arfordir a pheidiwch â cherdded ger ymyl y clogwyn. Byddwch yn barod am dywydd gwael a chymerwch ofal pellach pan fydd hi’n wyntog. Gwisgwch neu cariwch ddillad cynnes a/neu ddillad sydd yn medru gwrthsefyll glaw ar deithiau cerdded hir. Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio gan traveline-cymru.info Gellir dod o hyd i amserlenni llanw ar www.darganfodceredigion.cymru Sialens Llwybr Arfordir Ceredigion Beth am gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion o un pen i’r llall ac ateb saith cwestiwn i dderbyn dystysgrif sialens y llwybr. Am fwy o fanylion cysylltwch â Chanolfannau Croeso Ceredigion neu ymwelwch â www.darganfodceredigion.cymru
Transcript
  • Borth - Ynyslas

    Taith gerdded arfordirol Coast path walk

    Start RNLI Lifeboat Station BorthDistance 8 milesTime 3.5 hoursGrade ModerateParking Car park near RNLI stationGrid ref at start point SN 607 889Grid ref for Visitor Centre SN 609 941

    It’s not every village that can boast longshore drift as the reason for its existence, Borth however is one that can and seems to be a recent phenomenon. Along the beach beyond the buildings of Borth, the submerged forest can be seen at low tide. Bones and tree remains have been seen here and the recent discovery of deer antlers confirm that this stretch of land once flourished when the sea-level was lower.

    Sarn Cynfelyn is the most southerly of three such formations and together with the sunken forest at Borth have been the inspiration for the legend known locally as the lost land of Cantre’r Gwaelod.

    Cantre’r Gwaelod was a rich lowland part of Ceredigion with ramparts and sluices. The responsibility of closing the sluices fell to Seithennyn.

    A combination of a great storm at sea and Seithennyn’s regrettable dereliction of duty, led the sea to breach the defences and sweep inland leaving Gwyddno, the Kingdom’s ruler, high and dry on a relatively infertile part of his kingdom.

    Six thousand years later and Borth has the modern-day accolade of being one of the key filming locations for the BBC Wales Nordic Noir television series Hinterland. Cors Fochno, the boat yard where the River Leri reaches the sea and Borth station have featured prominently in the internationally acclaimed award-winning series.

    Today on a calm and quiet day, some say they can hear the bells of the drowned church of Cantre’r Gwaelod. Sit and wonder at the story and possibly listen quietly for the ringing of that submerged bell.

    Uchafbwyntiau’r daith Walk highlights

    Os ewch chi am dro ar hyd arfordir Bae Ceredigion fe gewch chi brofiad arbennig iawn o Lwybr Arfordir Cymru. Dyma rai o uchafbwyntiau’r daith.

    The route along the crescent of Cardigan Bay through Ceredigion forms a very special part of the Wales Coast Path experience. Here are some of the highlights you can expect to discover along the way.

    Dechrau Gorsaf Bâd Achub yr RNLIPellter 8 milltirAmser 3.5 awrGradd CymedrolParcio Maes parcio ger gorsaf yr RNLICyfeirnod grid yn y man cychwyn SN 607 889Cyfeirnod grid ar gyfer y Ganolfan Ymwelwyr SN 609 941

    Nid pob pentref all honni mai’r rheswm dros ei fodolaeth yw drifft arfordirol. Mae’r Borth yn un ohonynt ac ymddengys yn ffenomen ddiweddar. Ar hyd y traeth y tu hwnt i adeiladau Borth, gellir gweld y fforest danfor pan fydd y môr ar drai. Mae esgyrn a gweddillion coed wedi cael eu gweld yma ac, yn ddiweddar, cadarnhawyd bod cysylltiad rhwng cyrn carw a ddarganfuwyd ar y traeth a’r ddamcaniaeth bod y darn yma o dir ar un adeg wedi ffynnu pan oedd lefel y mor yn is.

    Sarn Cynfelyn yw’r mwyaf deheuol o dri ffurfiant o’r fath ac ynghyd â’r fforest danddwr yn Y Borth, mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r chwedl a elwir yn lleol fel tir coll Cantre’r Gwaelod.

    Roedd Cantre’r Gwaelod yn ardal o dir isel cyfoethog yng Ngheredigion gyda gwrthgloddiau a llifddorau. Cyfrifoldeb Seithennyn oedd cau’r llifddorau.

    Arweiniodd cyfuniad o storm fawr ar y môr a Seithennyn yn esgeuluso’i ddyletswyddau, at y môr yn chwalu’r amddiffynfeydd ac yn llifo dros y tir gan adael Gwyddno, rheolwr y deyrnas, ar dir cymharol anffrwythlon o’i deyrnas.

    Chwe mil o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae Borth yn enwog am fod yn lleoliad allweddol ar gyfer ffilmio cyfres deledu BBC Cymru, Y Gwyll. Mae Cors Fochno, yr iard gychod lle mae Afon Leri yn cyrraedd y môr a gorsaf Y Borth yn amlwg yn y gyfres sydd wedi cael sylw mawr yn rhyngwladol.

    Heddiw, ar ddiwrnod tawel, dywed rhai eu bod yn gallu clywed sŵn clychau eglwys Cantre’r Gwaelod. Eisteddwch a rhyfeddwch at y stori a gwrandewch yn ofalus am sŵn y gloch danddwr honno.

    www.four.cymru CCC2928 09/2016

    CronfaCymunedau’rArfordir

    Cronfanedau’r

    Coastal Communities Fund

    Coast Path Information • Always make sure you are suitably equipped both for your walk and for changing weather conditions. For your own safety, keep to the Coast Path and do not walk by the cliff edge.• Be prepared for bad weather and take extra care in windy conditions. Wear or carry warm and / or waterproof clothes on long walks. Please check tidal conditions in advance. • For all up-to-date travel information visit traveline-cymru.infoCeredigion tide times for can be found at www.discoverceredigion.wales

    Take the Ceredigion Coast Path ChallengeWalk the Ceredigion Coast Path in its entirety and answer seven questions to claim your personalised challenge certificate. Contact the Ceredigion Tourist Information Centres for more information or visit www.discoverceredigion.wales

    Gwybodaeth i Ymwelwyr / Tourist Informationwww.darganfodceredigion.cymruwww.discoverceredigion.wales www.facebook.com/discoverceredigion twitter.com/visitceredigion

    Gwybodaeth Llwybr Arfordir• Sicrhewch bob amser fod gennych yr offer addas i wneud eich taith gerdded ac i ymdopi â thywydd cyfnewidiol. Er eich diogelwch personol, cadwch at Lwybr yr Arfordir a pheidiwch â cherdded ger ymyl y clogwyn.• Byddwch yn barod am dywydd gwael a chymerwch ofal pellach pan fydd hi’n wyntog. Gwisgwch neu cariwch ddillad cynnes a/neu ddillad sydd yn medru gwrthsefyll glaw ar deithiau cerdded hir. • Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio gan traveline-cymru.infoGellir dod o hyd i amserlenni llanw ar www.darganfodceredigion.cymru

    Sialens Llwybr Arfordir CeredigionBeth am gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion o un pen i’r llall ac ateb saith cwestiwn i dderbyn dystysgrif sialens y llwybr. Am fwy o fanylion cysylltwch â Chanolfannau Croeso Ceredigion neu ymwelwch â www.darganfodceredigion.cymru

  • 1 O’r maes parcio ger Gorsaf Bâd-achub yr RNLI, croeswch i’r traeth cerigos yna i’r traeth tywod (pan fydd y môr ar drai yn unig). Ewch heibio i sawl twmpath o gerrig ar y chwith sydd yn ffurfio rhan o’r amddiffynfeydd rhag y môr. (Yn ystod penllanw, cerddwch drwy’r pentref tuag at ddiwedd y promenâd, gan fynd heibio i gerflun llechi Maen y Clochydd, y toiledau a’r dehongliad o’r goedwig danddwr).

    2 Gadewch y traeth cerigos/tywod ger Maen y Clochydd a’r toiledau cyhoeddus. Yma fe welwch wybodaeth ddiddorol am chwedl Cantre’r Gwaelod.

    3 Ar ddiwedd y llwybr tarmac arhoswch am eiliad i weld y dehongliad o’r goedwig danddwr, yna ewch i lawr i’r dde, yna i’r chwith ar hyd llwybr sydd yn rhedeg ar hyd ochr y ffordd. Ewch ymlaen ar hyd y trac nes ei fod yn cyrraedd man i groesi’r ffordd (A4353). Cofiwch edrych i’r dde ac i’r chwith yma. Croeswch yn ofalus i ymuno â’r llwybr gyda’r cwrs golf bellach ar y dde a’r chwith i chi.

    4 Dilynwch y llwybr i’r dde, gan gadw’r adeilad mawr gwyrdd ar y chwith. Cerddwch i fyny i gât ac, ar ôl edrych i’r ddau gyfeiriad, croeswch y rheilffordd. Rydych nawr yn cyrraedd Cors Fochno, rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi/Aberleri. Cerddwch yn syth ymlaen rhwng dau bolyn telegraff. Ewch ymlaen am ychydig nes i chi gyrraedd arwydd. Trowch i’r chwith yma a cherddwch ar hyd y llwybr gydag Afon Leri ar eich ochr dde a gwelyau cors ar y chwith.

    5 Ewch ymlaen nes i chi gyrraedd gât a chroeswch Afon Leri dros y bont gyda’r rheilffordd nawr ar y chwith. Ewch drwy ddwy gât nes i chi gyrraedd y groesfan rheilffordd. Byddwch yn ofalus bob amser. Croeswch y rheilffordd a dilynwch ochr y ffordd, gan groesi pont dros Afon Leri unwaith eto.

    6 Gerllaw Iard Gychod Ynyslas, ewch yn syth ymlaen trwy’r gât ger y grid gwartheg ac arwydd Llwybr Arfordir Ceredigion.

    7 Lle mae’r ffordd darmac yn gwyro i’r chwith, ewch ymlaen trwy ddwy gât fach ac yna parhau i’r un cyfeiriad trwy ddwy gât fwy. Wrth gyrraedd y ffordd, edrychwch i’r ddau gyfeiriad a chroeswch i’r ochr draw gan fynd ar draws y cwrs golf a chyrraedd y traeth cerigos. Trowch i’r dde a cherdded ar hyd y traeth. Yn dibynnu ar y llanw, y traeth tywod fydd yr opsiwn gorau!

    8 Ewch ymlaen ar hyd y traeth. Cadwch lygad am yr ail bwynt mynediad (arwydd Gwarchodfa Natur Genedlaethol 520m).

    9 Dilynwch lwybr tywod mewndirol tuag at Ganolfan Ymwelwyr Ynyslas, rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, gan ymuno â llwybr estyllod draw i’r Ganolfan Ymwelwyr.

    10 Byddwch yn cyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr ac yma gallwch gael picnic haeddiannol. Mae’r twyni tywod o amgylch y Ganolfan Ymwelwyr yn llawn bywyd gwyllt a rhannau helaeth wedi eu gorchuddio â moresg. Dyma’r twyni sydd i’w gweld yn y darn o ffilm a ddangosir cyn rhaglenni teledu’r BBC.

    11 I ddychwelyd i ddechrau’r daith gerdded, ewch ymlaen trwy’r Ganolfan Ymwelwyr gan droi i’r dde a dilyn y llwybr estyllod yn ôl trwy’r traeth cerigos/tywod. Yma bydd gennych olygfeydd o’r twyni tywod sy’n gorchuddio’r rhan hon o Geredigion a byddwch yn gweld Y Borth yn y pellter.

    12 Unwaith byddwch ar y traeth gyda’r môr ar y dde i chi, ewch i’r de tuag at y coedwig danddwr y gellir ei gweld pan fydd y môr ar drai.

    13 Cadwch lygad am y llwybr ar y chwith ar ôl cyfres o grwynau a dilynwch hwn yn ôl i’r Borth ac i Orsaf Bâd-achub yr RNLI.

    Borth - Ynyslas

    1 From the RNLI Lifeboat Station, cross over onto the pebble beach then on to the sandy beach (at low tide only). Pass several mounds of stone on your left that form part of the sea defences. (At high tide, walk through the village towards the end of the promenade, passing Maen y Clochydd slate statue (Stone of the Bell), the toilets and interpretation for the submerged forest).

    2 Leave the pebbled/sandy beach near the Maen y Clochydd and the public toilets. Here you’ll see some interesting information about the legend of Cantre’r Gwaelod.

    3 At the end of the tarmacked walkway stop for a moment to see interpretation about the submerged forest, then drop down to the right, then left along a track that runs along the roadside. Continue along the track until it reaches a point to cross the road (A4353). Take care to look both right and left here. Cross carefully to join track with the golf links course now right and left to you.

    4 Follow the track right, keeping the large green building on your left. Walk up to gate and, after looking both directions, cross railway track. You now enter the Dyfi/Aberleri National Nature Reserve. Walk straight on between two telegraph poles. Continue for some while until you reach a signpost. Turn left here and walk along the track with the River Leri on your right hand side and reed beds on your left.

    5 Continue until you reach a gate and cross the River Leri over the bridge with railway line now on you left. Continue through two gates until you arrive at the level crossing. Take care here at all times. Cross the railway track and follow the roadside, crossing a bridge over the River Leri once again.

    6 Near the Ynyslas Boatyard, continue straight ahead through the gate near the cattle grid and signposted Ceredigion Coast Path.

    7 Where the tarmacked road veers left continue ahead through two small gates then continue in the same direction through two larger gates. Arrive at the road, look both ways, and cross to the other side now heading across the golf links course reaching the pebbled beach. Turn right and walk along the beach. Depending on the tide, the sandy beach will be the best option!

    8 Continue along the beach. Keep an eye out for the second entry point (sign posted National Nature Reserve 520 m).

    9 Follow a well-trodden sand track inland towards Ynyslas Visitor Centre, part of the Dyfi National Nature Reserve, joining sand-covered boardwalk over to the visitor centre.

    10 Arrive at the visitor centre and have a well-earned picnic.The dunes that surround the Visitor Centre are havens for wildlife and much of the dune area is covered with marram grass. These are the dunes featured in the short kite flying ident shown before programmes on BBC television.

    11 To return to the start of the walk, continue through the Visitor Centre turning right and follow the boardwalk back towards the pebbled/sandy beach. Here you have views of the sand dunes that cover this part of Ceredigion and see Borth in the distance.

    12 Once on the beach and with the sea on your right, continue south towards the submerged forest that will be viewed at low tide.

    13 Keep an eye out for the walkway to your left after a series of groynes and follow this back into Borth and to the RNLI Lifeboat Station.

    Borth - Ynyslas

    Allwedd / Key Llwybr hyrwyddedig Promoted route Llwybr ar ffordd Route on road Llwybr Arfordir Cymru Wales Coast Path Llwybr anaddas ar benllanw Route impassable at high tide

    © Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2016 Arolwg Ordnans 100024419 © Crown copyright and database rights 2016 Ordnance Survey 100024419

    CYNGOR SIR

    CEREDIGIONCOUNTY COUNCIL

    1

    2

    3 4

    5

    678

    910

    11

    13

    12


Recommended