Date post: | 08-Mar-2016 |
Category: |
Documents |
Upload: | aberystwyth-arts-centre |
View: | 252 times |
Download: | 0 times |
evelyn grant
Born in Ontario and raised in Alberta, Evelyn Grant is an established Canadian ceramicist who
has recently completed her Masters in Ceramic Design at Staffordshire University:
“Stoke-on-Trent was a natural choice... I wanted to explore the techniques utilized in industrial
manufacturing, and combine these techniques with the traditional craft techniques I use in the
production of my work.”
Evelyn Grant’s ceramics are created using a combination of hand building techniques and slip
cast forms. The works often include a narrative element, and objects or images she has found in
markets and museums can appear, often in unexpected combinations.
Evelyn spent three months as Ceramic Artist in Residence at Aberystwyth Arts Centre in summer
2009, pursuing her work and also speaking at the International Ceramics Festival 2009.
eve lyn grant mul t ip les
Wedi’i geni yn Ontario a’i magu yn Alberta, mae Evelyn Grant yn seramegydd sefydledig o
Ganada sydd wedi cwblhau Gradd Uwch mewn Dylunio Serameg ym Mhrifysgol Swydd Stafford
yn ddiweddar: “Roedd Stoke-on-Trent yn ddewis naturiol... roeddwn yn awyddus i archwilio’r
technegau a ddefnyddir mewn cynhyrchu diwydiannol, a chyfuno’r technegau hyn gyda’r
technegau crefft traddodiadol yr wyf yn defnyddio wrth gynhyrchu fy ngwaith.”
Mae darnau serameg Evelyn Grant yn cael eu creu trwy ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
gwneuthur â’r llaw a ffurfiau cast slip. Mae’r gwaith yn aml yn cynnwys elfen o naratif, a gall
eitemau neu ddelweddau y daethpwyd o hyd iddynt mewn marchnadoedd neu amgueddfeydd
ymddangos, yn aml mewn cyfuniadau annisgwyl.
Treuliodd Evelyn dri mis fel Artist Preswyl mewn Serameg yng Nghanolfan y Celfyddydau
Aberystwyth yn ystod yr haf 2009, yn datblygu ei gwaith ac hefyd yn siarad yn yr^yl Serameg
Ryngwladol 2009.
“I have always worked in the cross field between art, craft and design, preferring to create work
which reinterprets the traditional aesthetics of craft. I take a conceptual approach to my work
where storytelling, reflection and critical commentary are prominent. Equal emphasis is placed
upon the narrative and the form.
While in the UK, I have viewed a number of ceramic collections which will continue to inform my
work. I was also fortunate in being selected for an artist residency in Aberystwyth, Wales. Here I
was able to spend time viewing collections, develop my computer graphic skills, and view
collections both in Aberystwyth, and throughout Wales. The work I was able to do here served
me well in refining my ideas for future production works. I strongly feel Craft is moving into a new
area of development. The rise in new craftsmanship combines centuries old traditional techniques
with modern high tech approaches. This combination springing from the craft movement, has led
to innovative projects in industrial design, and the art world.
I believe the things we own should be unique, and contain a narrative, not only in themselves,
but also in regard to the consumer who selects them. I am interested in confronting the
prejudices inherent to the medium in terms of methodology, functionalism, content and form.
My work for this exhibition represents the development of a series of original works as well as
artistic prototypes for functional craft/art/design pieces, which push the traditional boundaries of
the medium. By utilising innovative form in combination with two-dimensional imagery to create a
narrative on both functional and sculptural pieces, I hope to create work that functions within this
synthesized arena: art, craft and design.
I am honoured to have been invited to Aberystwyth Art Centre to exhibit this new work!”
“‘Rwyf wedi gweithio erioed mewn maes sy’n croesi rhwng celf, crefft a dylunio, ac mae’n well
gennyf greu gwaith sy’n ail-ddehongli estheteg draddodiadol crefft. Mae gennyf agwedd gysyniadol
tuag at fy ngwaith lle mae adrodd straeon, myfyrio a sylwebu beirniadol yn aml yn dod i’r wyneb.
Rhoddir yr un pwyslais ar y naratif ac ar y ffurf.
Yn ystod fy nghyfnod yn y DU, gwelais nifer o gasgliadau serameg a fydd yn parhau i ddylanwadu
fy ngwaith. Hefyd cefais y fraint o fod yn artist preswyl yn Aberystwyth. Treuliais amser yn gweld
casgliadau yn Aberystwyth a lleoliadau eraill yng Nghymru ac yn datblygu fy sgiliau graffeg ar y
cyfrifiadur. Mae’r gwaith a wnaethpwyd yma wedi bod o fudd mawr o safbwynt ffurfio syniadau
newydd ar gyfer y dyfodol.
Teimlaf yn gryf fod Crefft yn symud i fewn i faes newydd o ddatblygiad. Mae’r cynnydd mewn gwaith
crefft newydd yn cyfuno canrifoedd o hen dechnegau traddodiadol gyda sgiliau technolegol modern.
Mae’r cyfuniad hwn wedi arwain at brosiectau dyfeisgar mewn dylunio diwydiannol a’r byd celf.
Credaf y dylai’r pethau yr ydym yn berchen arnynt fod yn unigryw, ac yn cynnwys naratif,
dim yn unig ynddynt eu hunain ond hefyd o safbwynt y defnyddiwr sy’n eu dewis. Mae gennyf
ddiddordeb mewn wynebu’r rhagfarn sy’n bodoli yn y cyfrwng mewn termau methodoleg,
defnyddioldeb, cynnwys a ffurf.
Mae fy ngwaith ar gyfer yr arddangosfa hon yn cynrychioli datblygiad cyfres o ddarnau
gwreiddiol yn ogystal â phrototeipiau artistig ar gyfer darnau crefft/celf/dylunio defnyddiol,
sy’n gwthio yn erbyn ffiniau traddodiadol y cyfrwng. Trwy ddefnyddio ffurfiau dyfeisgar mewn
cyfuniad â delweddau dau-ddimensiwn i greu naratif ar ddarnau defnyddiol a cherfluniol,
gobeithiaf greu gwaith sy’n gweithredu o fewn yr arena gyfunol hon: celf, crefft a dylunio.
Mae’n fraint i gael fy ngwahodd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth i arddangos y gwaith
newydd hwn!”
Education: Alberta College of Art & Design: Ceramics Diploma; University of Calgary: Bachelor
Of Arts Degree; Red Deer College: Clay & Print diploma ; Staffordshire University, UK: Master of
Arts degree in Ceramic Design.
Evelyn has exhibited her ceramics throughout Canada and the USA for over
twenty years, at galleries including: University of Calgary Art Gallery, Alberta; Craft
Council Gallery, Alberta; Grossmont College, San Diego; Gardiner Museum of Ceramic Art,
Toronto; the Canadian Embassy in Washington and many others.
Evelyn Grant’s work is in many collections including: Arizona State University
Museum; Alberta Art Foundation; Burlington Arts Centre Ceramics Collection and the Federal
Government of Canada. She was Artist in Residence at Aberystwyth Arts Centre’s Creative Arts
Units in summer 2009.
Addysg: Coleg Celf a Dylunio Alberta: Diploma mewn Serameg; Prifysgol Calgary: Gradd mewn
Celf; Coleg Red Deer: Diploma Clai ac Argraffu; Prifysgol Swydd Stafford, y DU: Gradd Uwch
mewn Dylunio Serameg.
Bu Evelyn yn arddangos ei gwaith serameg ledled Canada ac UDA ers dros ugain
mlynedd, mewn orielau sy’n cynnwys: Oriel Gelf Prifysgol Calgary, Alberta; Oriel y Cyngor
Crefftau, Alberta; Coleg Grossmont, San Diego; Amgueddfa Celf Serameg Gardiner, Toronto;
Llysgenhadaeth Canada yn Washington a llawer mwy.
Ymddengys gwaith Evelyn Grant mewn llawer o gasgliadau gan gynnwys:
Amgueddfa Prifysgol Talaith Arizona; Sefydliad Celf Alberta; Casgliad Serameg Canolfan y
Celfyddydau Burlington a Llywodraeth Ffederal Canada.
Bu’n Artist Preswyl yn Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ystod yr haf 2009.
Aberystwyth Arts Centre Residencies
take place in the award-winning
Creative Arts Units designed by
Thomas Heatherwick. Evelyn Grant
was Ceramics Artist in Residence in
summer 2009.
Cynhelir Cyfnodau Preswyl Canolfan y Celfyddydau
Aberystwyth yn yr Unedau Creadigol, sydd wedi eu
gwobrwyo, a ddylunwyd gan Stiwdio Thomas
Heatherwick. Bu Evelyn Grant yn Artist Preswyl yn
Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
yn ystod yr haf 2009.
De
sig
nS
teph
en P
aul D
ale
Des
ign