+ All Categories
Home > Documents > It's Your Choice - Eich Dewis Chi

It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Date post: 06-Mar-2016
Category:
Upload: chwarae-teg
View: 227 times
Download: 5 times
Share this document with a friend
Description:
It's Your Choice - Eich Dewis Chi
Popular Tags:
38
See how an apprenticeship can work for you…
Transcript
Page 1: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

See how an apprenticeship

can work for you…

Page 2: It's Your Choice - Eich Dewis Chi
Page 3: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

An apprenticeship is a real job with training, so you can earn while you learn and pick up recognised qualifications as you go. It takes between one and four years to complete and covers 1,400 job roles in a wide range of industries, from engineering to agriculture and ICT to construction.

An apprenticeship offers so many benefits including:

• You can learn and earn at the same time. Your employer pays you a wage for the work you do, whilst you also spend a day or two each week at college studying

• You gain valuable, practical work experience with job specific skills

• You gain nationally recognised qualifications

• Your employer may offer you a permanent job at the end of your apprenticeship

• You will receive paid holiday time

It’s a big world of learning and work out there and it can be hard to decide what you may want to do in the future. Just ten years from now, there will be very few jobs that require no skills at all so having the right skills is more important than ever before.

It’s a good idea to know about all of the options available to you.

After all…it’s your choice!

Have a look through

this booklet which

tells the story of real

apprentices who love

what they do and the

choices they made.

Page 4: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Name: Anwen Newman

Marketing Officer, Chwarae Teg

Page 5: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

I’ve been travelling around Wales meeting up with young women who’ve chosen an apprenticeship to get the skills they need to give them rewarding careers.

It’s been great to meet Sheena, Amy, April and Katie and see how their choice of taking an apprenticeship has given them the skills to do a job they’re proud of. So join me in my journey to find out how these women have turned their learning into successful jobs. I hope their stories inspire you to find out more.

Once you’ve taken a look through the booklet, I’d love to know what you think about apprenticeships – which ones do you like?

Drop me a message on: Twitter: @Womenspire Facebook: Womenspire

Good luck with making your choices, and remember it’s your future, your career and your choice!

Employers

recognise and value

apprenticeships

Over 200

different types of

apprenticeships are

available for you

You can learn from experienced staff to gain the best skills

People with advanced level apprenticeships earn, on average £100,000 more than

those without, over the course of their career

An apprenticeship will give you a head start in your career and provide you with the skills to be

successful in today’s business world

Page 6: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Name: Katie Henton (Construction Engineer)

Location: West Wales

“I’ve done much better in my

apprenticeship than I did at school. I’m

much better at practical work.”

Page 7: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

I enjoyed working alongside my Dad when I was younger- he’s a groundworker. I wanted to become a groundworker too but my Dad wanted me to go to college and study something else.

I was keen to get a job straight away so I became a receptionist at Bluestone, a local holiday park, and went to college to do a National Diploma in Construction.

I was going to go to university following that but thought I should probably get some work experience first.

I was offered six weeks work experience with Kier Construction over the summer and they ended up taking me on to do a degree with their company. I now attend university four times a year and work on the site the rest of the time. Soon I’ll have a foundation degree, and then I have the option to top it up to a BSc Honours degree.

I learn the theory behind construction work at university, then complete assignments when I’m back at work. I usually just ask for some time at work to complete my assignments- my bosses are happy to let me do that. I even have my own office space here!

My friends can’t understand why I chose to go down this route- they’re all in office jobs and don’t know how I cope working outdoors in the rain. But I tell them I love it!

My favourite part of the job is engineering- marking out positions and plotting points on the site grid before building.

It’s great driving past a building that you helped put together. Recently I drove past a Sainsbury’s I’d worked on and felt a great sense of achievement knowing I’d played a part in the construction of it. It’s such a good feeling.

I run half marathons in my spare time. I did the Cardiff half marathon last year and now I’m training for the St David’s Coastal Path half marathon. I raise money for a motor-neurones disease charity.

Other than that I do a lot of shopping and eating - I love Mexican food.

I think the apprenticeship has worked for me because I learn better by having a go at something myself, rather than reading about it or having something explained to me by someone else. I’ve done much better in my apprenticeship than I did at school. I’m much better at practical work.

Find out more by visiting www.bconstructive.co.uk the website for careers in the construction industry from CITB - ConstructionSkills.

Construction isn’t

just for boys! The

construction industry

is working really hard

to overcome

traditional stereotypes

– you can be a part

of it!

The types of jobs available include civil engineer, demolition operative, plasterer, scaffolder, plumber, highways maintenance, plant mechanics, landscape, site supervisors and geotechnical engineer roles

There are 30 different apprenticeships available in the construction industry

Page 8: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Name: Amy Owen (Marine Engineer)

Location: Bangor

“The apprenticeship suits me because I’m a

great team worker but I’m equally happy to

work on my own. I also love to learn new things.

In fact, I’m still learning new things after all this

time. It’s the best thing that I have ever done!”

Page 9: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

My interest in making things began in high school when I got to do woodwork and more practical subjects. I preferred hands-on subjects rather than just sitting down to write or revise.

When I finished my A Levels, I decided I wanted to work. I arranged to meet with a careers advisor at Careers Wales to ask for some help as to what I should do next. They helped me to write a CV and sent copies to various businesses and colleges. A tutor at Pwllheli College got in touch with

me about an apprenticeship with Menai Marine and asked if

I’d be interested. What caught his eye on my

CV was that I’d had a summer job with a boat hire company-

he just assumed I had an interest in boats!

I was no expert, but I’ve always been up for

learning new things so I decided to go ahead with it.

I spent one day at college learning the theory, then four days putting what I’d learnt into practice in the workplace. This was a great way of learning. I picked things up quickly and felt more confident at work having a good understanding of the theory behind the tasks I was given.

I was really pleased when my manager at Menai Marine offered to keep me on after I finished my

studies. That was four years ago and I’m still there today!

I arrive at work for 9am and get stuck in straight away. I work on something different every day; it could take a month to build a boat as there are many different components or there could be a repair that needs doing on a boat that someone’s brought in. The job is never repetitive; it’s something you don’t get bored doing.

The apprenticeship suits me because I’m a great team worker but I’m equally happy to work on my own. I also love to learn new things. In fact, I’m still learning new things after all this time. It’s the best thing that I have ever done!

There are over 5,000 employers in Wales in the engineering, manufacturing and

science sector

Choosing a career

in engineering,

manufacturing or

science will give you

skills and knowledge

that are highly valued

by employers

Over the next five years engineering and manufacturing companies will need to take on an extra

170,000 people – that means there are lots of

opportunities available!

Types of industries include aerospace, automotive, composites, electrical, electronics, maintenance, marine, mechanical, metals, renewables and scienceFind out more by visiting www.semta.org.uk/individuals

the website for careers in the science, engineering and manufacturing industries from SEMTA.

Page 10: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Name: Sheena Carruthers (Carpenter)

Location: Ammanford

“Don’t just follow the crowd. If you think

you’d like to do an apprenticeship then

go for it – I’m so glad that I did!”

Page 11: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

I loved woodwork at school and really enjoyed watching my brothers and dad doing DIY around the house so I’ve always had an interest in carpentry.

I decided to start the PTA (Pathways to Apprenticeships) course at Coleg Sir Gar. I completed a year full-time then did some work experience before going on to do a shared apprenticeship in year two.

I work as a carpenter Monday to Wednesday and attend college on a Thursday and Friday. I start work at 8am, reporting to the manager, when I’m told what needs to be done that day which could be anything from building a roof to finishing a kitchen. There’s always a wide variety of work. I finish at 4pm which is great as I have two children so I’m home at a reasonable time.

I’m a hard worker, I like to be kept busy, I’m very practical and I like working with my hands. At the end of the day I can look at a finished product that I’ve made and feel like I’ve achieved

something; that’s the best thing about it, that sense

of achievement.

Don’t just follow the crowd. If you think you’d like to do an apprenticeship then go for it – I’m so glad that I did!

There are over 2.35 million people working in the construction

sector, that’s 8% of the UK workforce!

A traditional apprenticeship combines study at college with experience on site over a 2-3 year period

It is estimated that

an additional 2,950

construction jobs will be

needed each year in the

UK until 2017

Find out more by visiting www.bconstructive.co.uk the website for careers in the construction industry from CITB - ConstructionSkills.

Page 12: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Name: April Davies (Dairy Farmer)

Location: Newtown

“I didn’t really know what I wanted to do when

I left school, so I went to my local college to

see what was available. I had always helped

my Grandfather on his farm with his sheep so it

seemed a good idea to consider agriculture.”

Page 13: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

I didn’t really know what I wanted to do when I left school, so I went to my local college to see what was available. I had always helped my Grandfather on his farm with his sheep so it seemed a good idea to consider agriculture.

At college, I spent one day doing practical work and one day learning the theory behind it. I particularly enjoyed the theory - learning just about all there is to know about sheep, beef, dairy, pigs, chickens and everything in between!

As part of the college course, I was given several placements including one working on a sheep farm and the other at Dairy Dreams. Four and a half years on, I’m still here today!

It’s a long day on the farm with lots of jobs that always need doing. Feeding and milking the cows has to be my favourite but I also love working in the farm shop on a Saturday. I get to meet lots of different people and the customers are so friendly. I also love the homemade ice cream!

The social aspect of farming is great – there is never a dull moment in farming!

Apprenticeships available cover

basic occupations, skilled trades and managerial roles

Types of jobs available include park ranger, biodiversity manager,

trek leader, landscape architect, farmer, equestrian

trainer, environmental conservationist, machinery

operator and animal inspector

The land-based and

environmental industry

in Wales has around

18,600 businesses and

85,000 employees

Find out more by visiting www.lantra.co.uk/Standards-and-Qualifications/Apprenticeships.aspx the website for apprenticeships in land-based industries from Lantra.

Page 14: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

IT isn’t all about sitting at a computer all day long and coding, there are so many fun and interesting elements that may not be obvious at first. There are hundreds of IT jobs that involve being creative such as a Website Designer, or a Business Analyst combining business skills with awareness of IT tools to advance a product or a company - IT is the basis of lots of roles in a variety of companies and your skills will open up opportunities to work anywhere in the world.

More than 1,700 workers will be needed in the UK games industry alone over the next 5 years

IT and telecoms

professionals aged

between 16-29 earn

a third more than the

national average

An IT apprenticeship

means you’re joining

a creative and fast

growing sector with

long-term career

prospects

Types of jobs available include web developer, social media management, app designer, systems engineer, telecoms officer, IT trainer, graphic designer and games software developer

Find out more by visiting www.bigambitionwales.com the website for careers in the IT and Telecoms industry from e-skills

IT and Telecoms

Page 15: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Most goods used by people in their homes, at work and in everyday life are products derived from the chemical, nuclear, oil and gas, petroleum and polymer industries.

These industries produce fuel for cars and heating for homes, bitumen, plastics, paints and inks, rubber, synthetic fibres for clothing, pharmaceuticals and the energy necessary for us all to function.

There are more females working in these industries than you might think. In fact, 34% of the workforce in Wales are women so you’d have some great role models to follow.

Apprenticeships are available across the chemical, pharmaceutical, nuclear, oil and gas, petroleum and polymer industries

Higher level

apprenticeships are

also on offer to give

you a higher level

qualification and on

the job learning

Science is a continually growing industry with an estimated demand for around 24,000 technical roles over the next ten years

In the UK over 800,000 people are employed in science based industries and there are over 20,000 employers

Find out more by visiting www.cogent-careers.com the website for careers in the science based industries from Cogent

Science based industries

Page 16: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Do you like what you’ve heard about apprenticeships and want to find out more?

Your teachers and careers advisors are a good place to start for advice. We’ve also added some links to websites that have lots of useful information.

SEMTA – the Sector Skills Council for Science, Engineering and Manufacturing Technologies

www.semta.org.uk

Cogent – The Sector Skills Council for the Chemicals, Pharmaceuticals, Nuclear, Oil and Gas, Petroleum and Polymer industries

www.cogent-ssc.com

ConstructionSkills – the Sector Skills Council for the Construction Industry

www.cskills.org

Lantra – the Sector Skills Council for Land-based and Environmental Industries

www.lantra.co.uk

eSkills UK – the Sector Skills Council for Information Technology and Telecoms industries

www.e-skills.com

?

Page 17: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

So, as you start

making your choices

for your future, it really

is worth checking

out skills based

apprenticeships as

this can be the basis

of a great career that

is both lasting and

rewarding.

Sector Skills Councils are organisations that represent each of the different skills. All you need to do is contact the one that looks after the skills you are interested in.

Careers Wales www.careerswales.com

Apprenticeships in Wales http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?lang=en

Apprenticeships UK www.apprenticeships.org.uk

STEM Cymru www.stemcymru.org.uk

WISE (Women into Science) www.wisecampaign.org.uk

Women’s Engineering Society www.wes.org.uk

Other useful websites to check out include:

Page 18: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Photography students from University of Wales, Newport:

Sammy Clarke

Hannah Hammond

Elisha Kane

Jasmine Parker

Jade Sawden

Joanna Train

Charlotte Whitehurst

Donald Christie

Senior Lecturer, Photography for Fashion and Advertising

School of Film, Photography and Digital Media

University of Wales, Newport

Employers of our featured apprentices:

Menai Marine Ltd www.menaimarine.biz

Beddoes & Sons – Dairy Dreams www.dairydreams.co.uk

Kier Construction www.kier.co.uk

T. Richard Jones (Betws) Ltd. www.trichardjones.co.uk

Thank you to all of those who helped produce the It’s Your Choice e-book .

We’d like to say thank you to all the apprentices that took part in making this book, their employers for giving them time to have their photos taken and to the fabulous group of student photographers from Newport University that took the photos. Here they are:

Page 19: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

For more information about Chwarae Teg and the Agile Nation Project visit www.agilenation.co.uk

Facebook: Womenspire

Twitter: @Womenspire

© Chwarae Teg 2013

The Agile Nation project is a European Social Fund and Welsh Government funded project, managed by Chwarae Teg. We support women to make the most of their talents and take the next step in their careers, as well as working with employers and educators to ensure gender equality in work and learning.

Page 20: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Cipolwg ar sut y gallwch chi

fanteisio ar brentisiaethau

Page 21: It's Your Choice - Eich Dewis Chi
Page 22: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Mae prentisiaeth yn swydd go iawn gyda hyfforddiant, felly gallwch chi ennill cyflog wrth ddysgu a chael cymwysterau cydnabyddedig yr un pryd. Mae’n cymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i gwblhau prentisiaeth ac mae dewis o 1,400 o swyddi mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, o beirianneg i amaethyddiaeth, o TGCh i adeiladu.

Mae prentisiaeth yn cynnig nifer o fanteision gan gynnwys:

• Gallwch ddysgu ac ennill cyflog yr un pryd. Mae eich cyflogwr yn rhoi cyflog i chi am y gwaith rydych chi’n ei wneud, a bob wythnos rydych chi hefyd yn treulio diwrnod neu ddau yn y coleg yn astudio

• Rydych chi’n cael profiad gwaith gwerthfawr ac ymarferol gyda sgiliau sy’n benodol i’r swydd

• Rydych chi’n ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol

• Gall eich cyflogwr gynnig swydd barhaol i chi ar ddiwedd eich prentisiaeth

• Byddwch yn cael gwyliau gyda thâl

Mae’r byd dysgu a’r byd gwaith yn un dyrys iawn a gall fod yn anodd penderfynu beth allech chi ei wneud yn y dyfodol. Mewn cwta deng mlynedd, bydd y swyddi nad oes angen unrhyw sgiliau ar eu cyfer yn brin iawn, felly mae sicrhau bod gennych chi’r sgiliau cywir yn bwysicach heddiw nag erioed.

Mae’n syniad da sicrhau eich bod yn gwybod beth yw’r holl ddewisiadau sydd ar gael i chi.

Wedi’r cwbl….chi piau’r dewis!

Darllenwch drwy’r

llyfryn hwn gan ei fod

yn cynnwys hanesion

prentisiaid go iawn

sydd wrth eu bodd yn

eu gwaith a chyda’u

dewisiadau.

Page 23: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Enw: Anwen Newman

Swyddog Marchnata, Chwarae Teg

Page 24: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Rwyf wedi bod yn teithio i bob cwr o Gymru i gyfarfod merched ifanc sydd wedi dewis dilyn prentisiaeth i ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa werth chweil.

Pleser oedd cael cyfarfod Sheena, Amy, April a Katie a gweld sut mae prentisiaeth wedi rhoi’r sgiliau iddyn nhw wneud swyddi sy’n destun balchder iddyn nhw. Ymunwch â mi ar fy nhaith i weld sut mae’r merched hyn wedi rhoi’r hyn maent wedi’i ddysgu ar waith mewn swyddi llwyddiannus. Gobeithio y bydd eu straeon yn eich ysbrydoli i chwilio am ragor o wybodaeth.

Unwaith rydych chi wedi darllen y llyfryn, hoffwn wybod beth yw eich barn chi ar brentisiaethau – pa rai sy’n apelio atoch?

Anfonwch neges ata i drwy’r canlynol: Twitter: @WomenspireCymru Facebook: Womenspire

Pob lwc gyda’ch dewisiadau, a chofiwch mai eich dyfodol, eich gyrfa a’ch dewis chi yw e!

Mae

cyflogwyr yn

cydnabod a

gwerthfawrogi

prentisiaethau

Mae dros 200 o

wahanol fathau o

brentisiaethau ar

gael i chiGallwch ddysgu gan staff profiadol er mwyn ennill y sgiliau gorau

Mae pobl sydd â phrentisiaethau lefel uwch yn ennill, ar gyfartaledd a gydol eu gyrfa*, £100,000 yn fwy na’r rhai sydd heb brentisiaethau

Bydd prentisiaeth yn gychwyn ardderchog i’ch gyrfa ac yn sicrhau bod gennych chi’r sgiliau i

lwyddo yn y byd busnes sydd ohoni

Page 25: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Enw: Katie Henton (Peiriannydd Adeiladu )

Lleoliad: Gorllewin Cymru

“Dw i’n llawer mwy llwyddiannus yn fy

mhrentisiaeth nag oeddwn i yn yr ysgol.

Dw i’n llawer gwell gyda gwaith ymarferol.”

Page 26: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Roeddwn i’n mwynhau gweithio gyda ’nhad pan oeddwn i’n ifanc – roedd ei waith yn ymwneud â pharatoi a chlirio tir. Roeddwn i am wneud yr un gwaith, ond roedd fy nhad am i mi fynd i’r coleg i astudio rhywbeth arall.

Roeddwn i’n awyddus i ddod o hyd i swydd yn syth felly cefais waith fel derbynnydd yn Bluestone, parc gwyliau lleol, a mynd i’r coleg i wneud Diploma Mewn Gwaith Adeiladu.

Roeddwn i wedi meddwl mynd i brifysgol wedyn, ond meddyliais mai’r peth gorau fyddai cael ychydig o brofiad gwaith yn gyntaf.

Cynigwyd chwe wythnos o brofiad gwaith i mi gyda Kier Construction dros yr haf a bum yn ddigon ffodus o gael cyfle i ddilyn cwrs gradd gyda’r cwmni. Dw i bellach yn mynychu’r brifysgol bedair gwaith y flwyddyn ac yn gweithio ar y safle weddill yr amser. Cyn hir, bydd gen i radd sylfaen, ac wedyn bydd cyfle i mi fynd ymlaen i ennill gradd Anrhydedd BSc.

Dw i’n dysgu’r gwaith theori ar gyfer gwaith adeiladu yn y brifysgol, ac yn cwblhau’r aseiniadau yn y gwaith. Fel rheol byddaf yn gofyn i’m penaethiaid am amser i ffwrdd o’r gwaith i gwblhau fy aseiniadau - maen nhw’n barod i mi gael gwneud hynny. Dw i hyd yn oed wedi cael gofod swyddfa fy hun yma!

Mae fy ffrindiau i’n methu deall fy mod i wedi dewis hyn fel llwybr gyrfa – maen nhw i gyd yn gweithio mewn swyddfeydd, ac yn methu deall sut

dw i’n ymdopi â gweithio yn yr awyr agored yn y glaw. Ond dw i’n dweud wrthyn nhw ’mod i wrth fy modd â’r gwaith!

Fy hoff ran o’r gwaith yw’r ochr beirianneg – marcio’r safleoedd a phlotio’r pwyntiau ar grid y safle cyn dechrau adeiladu.

Dw i’n cael modd i fyw pan fydda i’n gyrru heibio i adeilad yr oeddwn i â rhan yn y gwaith o’i adeiladu. Yn ddiweddar, roeddwn i’n gyrru heibio i adeilad Sainsbury’s lle’r oeddwn i wedi bod yn gweithio, a chefais gryn foddhad wrth feddwl fy mod i wedi bod yn rhan o’r gwaith o roi’r adeilad ar ei draed. Mae’n deimlad braf.

Yn fy amser hamdden dw i’n rhedeg mewn rasys hanner marathon. Rhedais hanner marathon Caerdydd y llynedd, ac ar hyn o bryd dw i’n paratoi ar gyfer hanner marathon Llwybr Arfordir Tyddewi. Dw i’n codi arian ar gyfer elusen clefydau motor-neuron.

Fel arall, dw i’n mwynhau siopa a bwyta – ac yn hoff iawn o fwyd Mecsicanaidd.

Dw i’n credu bod y brentisiaeth wedi bod yn addas i mi oherwydd ’mod i’n dysgu’n well trwy roi cynnig ar rywbeth yn hytrach na darllen amdano neu fod rhywun arall yn egluro rhywbeth i mi. Dw i’n llawer mwy llwyddiannus yn fy mhrentisiaeth nag oeddwn i yn yr ysgol. Dw i’n llawer gwell gyda gwaith ymarferol.

I ddysgu mwy ewch i www.bconstructive.co.uk/cy/ y wefan ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu - ConstructionSkills.

Dyw adeiladu ddim

ar gyfer bechgyn yn

unig! Mae’r diwydiant

adeiladu yn gweithio’n

galed iawn i oresgyn

stereoteipiau

traddodiadol –

gallwch fod yn rhan

ohono!

Mae’r mathau o swyddi sydd ar gael yn cynnwys swyddi peiriannydd sifil, gweithiwr dymchwel, plastrwr, sgaffaldwr, plymer, gwaith cynnal a chadw priffyrdd, mecaneg cyfarpar, gwaith tirlunio, goruchwylio safleoedd a pheiriannydd daeareg-dechnegol

Mae yna 30 o wahanol brentisiaethau ar gael yn y diwydiant adeiladu

Page 27: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Enw: Amy Owen (Peiriannydd Morol)

Lleoliad: Bangor

“Mae’r brentisiaeth yn addas i mi oherwydd dw

i’n weithiwr tîm da ond dw i’n hapus hefyd yn

gweithio ar fy mhen fy hun. Dw i’n hoffi dysgu

pethau newydd hefyd. Yn wir, dw i’n dal i fod yn

dysgu pethau newydd o hyd. Dyma’r peth

gorau i mi ei wneud erioed! ”

Page 28: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Cychwynnodd fy niddordeb mewn gwneud pethau yn yr ysgol uwchradd pan gefais y cyfle i wneud gwaith coed a phynciau mwy ymarferol. Roedd yn well gen i bynciau ymarferol yn hytrach nag eistedd i ysgrifennu neu astudio.

Ar ôl gorffen fy nghwrs lefel A, penderfynais fy mod am weithio. Trefnais gyfarfod â chynghorydd gyrfa yn Gyrfa Cymru i ofyn am rywfaint o gymorth gyda’r cam nesaf. Fe wnaethon nhw fy helpu i ysgrifennu CV ac anfon copïau i wahanol fusnesau a cholegau.

Cysylltodd tiwtor o Goleg Pwllheli â mi i sôn am brentisiaeth gyda

Menai Marine gan ofyn a oedd gen i ddiddordeb.

Yr hyn oedd wedi tynnu ei sylw ar fy CV oedd y ffaith fy mod wedi bod

yn gweithio i gwmni llogi cychod dros yr haf -

roedd wedi tybio fod gen i ddiddordeb mewn cychod!

Doeddwn i ddim yn arbenigwr, ond roeddwn bob amser wedi bod

yn awyddus i ddysgu pethau newydd felly penderfynais fynd amdani.

Treuliais ddiwrnod yn y coleg yn dysgu’r gwaith theori, ac yna pedwar diwrnod yn rhoi’r hyn yr oeddwn wedi ei ddysgu ar waith yn y gweithle. Roedd hon yn ffordd wych o ddysgu. Roeddwn yn dysgu’n gyflym ac yn teimlo’n fwy hyderus yn y gwaith gan fod gen i ddealltwriaeth dda o’r theori y tu ôl i’r tasgau yr oeddwn i’n eu gwneud.

Roeddwn wrth fy modd pan gynigiodd fy rheolwr yn Menai Marine swydd i mi wedi i mi orffen astudio. Roedd hynny

bedair blynedd yn ôl ac rwy’n dal i fod yma heddiw!

Rwy’n cyrraedd fy ngwaith am 9am ac yn bwrw iddi ar unwaith. Rwy’n gweithio ar rywbeth gwahanol bob dydd; gall gymryd mis i adeiladu cwch gan fod yna sawl elfen wahanol iddo neu bydd rhywun yn dod â chwch i mewn sydd angen ei drwsio. Mae’r swydd yn newid o hyd; dyw hi ddim yn bosibl diflasu yn y swydd hon.

Mae’r brentisiaeth yn addas i mi oherwydd dw i’n weithiwr tîm da ond dw i’n hapus hefyd yn gweithio ar fy mhen fy hun. Dw i’n hoffi dysgu pethau newydd hefyd. Yn wir, dw i’n dal i fod yn dysgu pethau newydd o hyd. Dyma’r peth gorau i mi ei wneud erioed!

Mae yna dros 5,000 o gyflogwyr yng Nghymru yn y sector peirianneg, gweithgynhyrchu a

gwyddoniaeth

Bydd dewis gyrfa

ym maes peirianneg,

gweithgynhyrchu neu

wyddoniaeth yn sicrhau

bod gennych chi sgiliau

a gwybodaeth sy’n

hynod werthfawr i

gyflogwyr

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd angen i

gwmnïau peirianneg a gweithgynhyrchu gyflogi

170,000 yn ychwanegol o bobl – sy’n golygu y bydd

yna gyfleoedd di-ri!

Mae’r mathau o ddiwydiannau’n cynnwys y sector awyrofod, moduro, cyfansoddion, trydanol, electroneg, cynnal a chadw, morol, mecanyddol, metelau, ynni adnewyddadwy a gwyddoniaethI ddysgu mwy ewch i www.semta.org.uk/individuals y wefan ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau gwyddoniaeth, peirianneg a gweithgynhyrchu gan SEMTA.

Page 29: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Enw: Sheena Carruthers (Saer Coed)

Lleoliad: Rhydaman

“Peidiwch â dilyn y dorf yn unig. Os

ydych chi’n meddwl eich bod am wneud

prentisiaeth yna ewch amdani – dw i’n

falch iawn ‘mod i wedi gwneud hynny!”

Page 30: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Roeddwn wrth fy modd gyda gwaith coed yn yr ysgol ac yn mwynhau gwylio fy mrodyr a dad yn gwneud gwaith llaw o amgylch y t , felly mae gen i ddiddordeb mewn gwaith coed erioed.

Penderfynais gychwyn y cwrs Llwybrau at Brentisiaethau yng Ngholeg Sir Gâr. Treuliais flwyddyn ar y cwrs yn llawn amser ac yna mynd ati i gael profiad gwaith cyn gwneud prentisiaeth ar y cyd yn yr ail flwyddyn.

Dw i’n saer coed o ddydd Llun i ddydd Mercher ac yn mynd i’r coleg ar ddydd Iau a dydd Gwener. Dw i’n cychwn gweithio am 8am, gan adrodd i’r rheolwr sy’n dweud wrtha i beth sydd angen ei wneud y diwrnod hwnnw, a allai gynnwys unrhyw beth o adeiladu to i orffen cegin. Mae yna amrywiaeth eang o waith bob amser. Dw i’n gorffen am 4pm sy’n wych oherwydd mae gen i ddau o blant felly rwy’n gallu bod gartre ar amser rhesymol.

Dw i’n gweithio’n galed, ac yn hoffi bod yn brysur. Dw i’n ymarferol iawn ac yn hoffi gweithio gyda’m dwylo. Ar ddiwedd y dydd gallaf edrych ar y cynnyrch gorffenedig dw i wedi ei wneud a theimlo

‘mod i wedi cyflawni rhywbeth; dyna’r peth gorau amdano, y

teimlad yna o gyflawni.

Peidiwch â dilyn y dorf yn unig. Os ydych chi’n meddwl eich bod am wneud prentisiaeth yna ewch amdani – dw i’n falch iawn ‘mod i wedi gwneud hynny!

Mae yna dros 2.35 miliwn o bobl yn

gweithio yn y sector adeiladu, mae hynny’n 8% o weithlu’r DU!

Mae prentisiaeth draddodiadol yn cyfuno astudio mewn coleg â phrofiad ar leoliad dros gyfnod o 2-3 blynedd

Amcangyfrifir y bydd

angen 2,950 yn fwy o

swyddi adeiladu bob

blwyddyn yn y DU

tan 2017

I ddysgu mwy ewch i www.bconstructive.co.uk/cy/ y wefan ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu - ConstructionSkills.

Page 31: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Enw: April Davies (Ffermwr llaeth)

Lleoliad: Y Drenewydd

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn

i am ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, felly

penderfynais fynd draw i’r coleg lleol i weld

beth oedd ar gael. Roeddwn wedi helpu fy

nhaid gyda’i ddefaid ar ei fferm erioed felly

roedd ystyried amaethyddiaeth yn apelio.”

Page 32: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i am ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, felly penderfynais fynd draw i’r coleg lleol i weld beth oedd ar gael. Roeddwn wedi helpu fy nhaid gyda’i ddefaid ar ei fferm erioed felly roedd ystyried amaethyddiaeth yn apelio.

Yn y coleg, treuliais un diwrnod yn gwneud gwaith ymarferol ac un diwrnod yn dysgu’r gwaith theori. Roeddwn yn mwynhau’r gwaith theori yn arbennig - dysgu popeth oedd i wybod bron iawn am ddefaid, cig eidion, godro, moch, ieir a llawer iawn mwy!

Fel rhan o’r cwrs coleg, bûm ar sawl lleoliad gan gynnwys un yn gweithio ar fferm ddefaid ac un arall yn Dairy Dreams. Dw i’n dal i fod yma bedair blynedd a hanner yn ddiweddarach!

Mae diwrnod ar fferm yn un hir ac mae yna rywbeth i’w wneud o hyd. Bwydo a godro’r gwartheg yw fy hoff dasgau ond dw i wrth fy modd yn gweithio yn siop y fferm ar ddydd Sadwrn. Dw i’n cael cyfarfod llawer o wahanol bobl ac mae’r cwsmeriaid mor gyfeillgar. Dw i wrth fy modd gyda’r hufen iâ cartref hefyd!

Mae ochr gymdeithasol ffermio yn wych – mae yna hwyl i gael bob amser!

Mae’r prentisiaethau sydd ar gael yn cynnwys

galwedigaethau sylfaenol, swyddi crefft medrus a swyddi rheoli

Mae’r mathau o swyddi sydd ar gael yn cynnwys

parcmon, rheolwr bioamrywiaeth, arweinydd teithiau cerdded, pensaer

tirlunio, ffermwr, hyfforddwr ceffylau, cadwraethwr

amgylcheddol, gweithredwr peiriannau ac arolygwr anifeiliaid

Mae gan

ddiwydiannau’r tir

a’r amgylchedd

yng Nghymru tua

18,600 o fusnesau

a 85,000 o weithwyr

cyflogedig

I ddysgu mwy ewch i http://www.lantra.co.uk/Nations/Wales.aspx y wefan ar gyfer prentisiaethau yn niwydiannau’r tir gan Lantra.

Page 33: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Mae TG yn fwy nag eistedd o flaen cyfrifiadur trwy’r dydd a chodio gwybodaeth. Mae yna gymaint o elfennau hwyliog a diddorol i’r gwaith, os ewch chi o dan yr wyneb. Mae bod yn greadigol yn elfen o gannoedd o swyddi TG, fel Dylunydd Gwefan neu Ddadansoddwr Busnes, sy’n cyfuno sgiliau busnes gydag ymwybyddiaeth o offer TG i ddatblygu cynnyrch neu gwmni. Mae llawer o swyddi cwmnïau o bob math yn seiliedig ar TG a bydd eich sgiliau chi yn agor drysau i chi allu gweithio unrhyw le yn y byd.

Bydd angen dros 1,700 o weithwyr yn niwydiant gemau’r DU yn unig dros y 5 mlynedd nesaf

Mae gweithwyr

proffesiynol TG a

thelathrebu rhwng

16 a 29 oed yn cael

cyflogau sydd draean yn

uwch na’r cyfartaledd

cenedlaethol.

Mae prentisiaeth TG

yn golygu y byddwch

yn ymuno â sector

creadigol sy’n tyfu’n

gyflym gyda rhagolygon

gyrfa tymor hir

Mae’r mathau o swyddi sydd ar gael yn cynnwys

dylunydd gwefannau, rheoli cyfryngau cymdeithasu, dylunydd technoleg ap, peiriannydd systemau, swyddog telathrebu, hyfforddwr TG, dylunydd graffeg a datblygwr meddalwedd gemau

I ddysgu mwy ewch i www.bigambitionwales.com/cy/, y wefan ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant TG a Thelathrebu gan e-skills

TG a Telathrebu

Page 34: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Mae mwyafrif y nwyddau a ddefnyddir gan bobl yn eu cartrefi, yn y gwaith ac mewn bywyd bob dydd yn nwyddau sy’n deillio o’r diwydiannau cemegol, niwclear, olew, nwy, petrolewm a pholymerau.

Mae’r diwydiannau hyn yn cynhyrchu tanwydd ar gyfer ceir a gwres ar gyfer cartrefi, bitwmen, plastig, paent ac inc, rwber, ffibrau synthetig ar gyfer dillad, deunyddiau fferyllol, a’r ynni sy’n angenrheidiol ar gyfer bywyd bob dydd.

Mae yna fwy o fenywod yn gweithio yn y diwydiannau hyn nac y tybiech chi. Yn wir, mae 34% o’r gweithlu yng Nghymru yn fenywod felly mae yna fenywod sy’n esiamplau gwych i chi.

Mae prentisiaethau ar gael ar draws y diwydiannau cemegol, deunyddiau fferyllol, niwclear, olew a nwy, petrolewm a pholymerau

Mae prentisiaethau

lefel uwch yn cael eu

cynnig hefyd er mwyn

rhoi cymhwyster lefel

uwch i chi a chyfle i chi

ddysgu yn y swydd

Mae gwyddoniaeth yn ddiwydiant sy’n tyfu’n barhaus ac amcangyfrifir y bydd yna alw am tua 24,000 o swyddi technegol dros y deng mlynedd nesaf

Yn y DU cyflogir dros 800,000 o bobl mewn diwydiannau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac mae yna dros 20,000 o gyflogwyr

I ddysgu mwy ewch i www.cogent-careers.com, y wefan ar gyfer gyrfaoedd mewn diwydiannau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth gan Cogent.

Diwydiannau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth

Page 35: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi wedi’i glywed am brentisiaethau ac am ddysgu mwy?

Mae eich athrawon a’ch cynghorwyr gyrfa yn fan cychwyn da ar gyfer cyngor. Rydym hefyd wedi ychwanegu hefyd rai dolenni i wefannau sy’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol.

SEMTA – y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu

www.semta.org.uk

Cogent – y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y diwydiannau Cemegion, Deunyddiau Fferyllol, Niwclear, Olew a Nwy, Petrolewm a Pholymerau

www.cogent-ssc.com

ConstructionSkills – y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y Diwydiant Adeiladu

www.cskills.org

Lantra – y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Diwydiannau’r Tir a’r Amgylchedd

www.lantra.co.uk

eSkills UK – y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer diwydiannau Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu

www.e-skills.com

?

Page 36: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Felly, wrth i chi

ddechrau gwneud

dewisiadau ar gyfer eich

dyfodol, mae’n werth

i chi ddysgu mwy am

brentisiaethau sy’n seiliedig

ar sgiliau - gall hyn fod yn sail

i yrfa hir a gwerth chweil a

fydd yn rhoi cryn

foddhad i chi.

Sefydliadau sy’n cynrychioli pob un o’r sgiliau gwahanol yw’r Cynghorau Sgiliau Sector. Yr oll sydd raid i chi ei wneud yw cysylltu â’r Cyngor sy’n gofalu am y sgiliau sydd o ddiddordeb i chi.

Gyrfa Cymru www.gyrfacymru.com

Prentisiaethau yng Nghymru http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?skip=1&lang=cy

Apprenticeships UK www.apprenticeships.org.uk

STEM Cymru www.stemcymru.org.uk/cy/

WISE (Women into Science) www.wisecampaign.org.uk

Women’s Engineering Society www.wes.org.uk

Dyma wefannau defnyddiol eraill:

Page 37: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Myfyrwyr ffotograffiaeth Prifysgol Cymru, Casnewydd:

Sammy Clarke

Hannah Hammond

Elisha Kane

Jasmine Parker

Jade Sawden

Joanna Train

Charlotte Whitehurst

Donald Christie

Uwch ddarlithydd, Ffotograffiaeth ar gyfer Ffasiwn a Hysbysebu

Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol

Prifysgol Cymru, Casnewydd

Cyflogwyr o’n prentisiaid dan sylw:

Menai Marine Ltd www.menaimarine.biz

Beddoes & Sons – Dairy Dreams www.dairydreams.co.uk

Kier Construction www.kier.co.uk

T. Richard Jones (Betws) Ltd. www.trichardjones.co.uk

Diolch i bawb a gynorthwyodd gyda’r gwaith o lunio’r e-lyfryn Eich Dewis Chi.

Hoffem ddiolch i’r holl brentisiaid a gymerodd ran yn y gwaith o lunio’r llyfr hwn, i’w cyflogwyr am roi amser iddynt gael tynnu eu llun ac i’r grŵp arbennig o fyfyrwyr ffotograffiaeth o Brifysgol Cymru Casnewydd a weithiodd ar y ffotograffau. Dyma nhw:

Page 38: It's Your Choice - Eich Dewis Chi

Am fwy o wybodaeth am Chwarae Teg a Chenedl Hyblyg ewch i http://www.cymraeg.agilenation.co.uk/

Facebook: Womenspire

Twitter: @WomenspireCymru

© Chwarae Teg 2013

Prosiect a ariennir gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru yw Cenedl Hyblyg, a reolir gan Chwarae Teg. Rydym yn helpu menywod i fanteisio i’r eithaf ar eu doniau a chymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd, yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr ac addysgwyr er mwyn sicrhau cydraddoldeb ar sail rhyw ym meysydd gwaith a dysgu.


Recommended